David Melding AM

Constitutional and Legislative Affairs Committee

National Assembly for Wales

Cardiff Bay

CF99 1NA

 

 

Business Committee Correspondence

 

Date: July 2011

 

Dear David,

 

Committee Portfolios and Responsibilities in the 4th Assembly

 

I would like to draw your attention to the Report laid by the Business Committee on 14 July 2011, setting out the committee portfolios and responsibilities, the role of committees and your role as committee Chair (CR-LD8605: Committee Portfolios and Responsibilities in the 4th Assembly, Business Committee, 12 July 2011).

 

The new Committee system agreed by the Assembly on 22 June introduces a new approach to scrutiny within the Assembly. It simplifies the system, but also brings about challenges to ensure that committees prioritise and manage their activity so as to deliver a balanced, comprehensive and effective programme of legislative, policy and financial scrutiny within the time slots allocated to them in the Assembly timetable.

 

The Business Committee agreed to review the operation of the new committee system within 12 months. We will pay particular attention to the scope of the remit of each committee as part of the 12 month review, to ensure that broadly all areas are being addressed.  We will also consider how the scrutiny of European matters is addressed within the committee system.

 

Given that we are embarking on this new approach for committee scrutiny, I would like to hold termly meetings with committee chairs to discuss how the system is evolving and any issues arising. I intend to hold the first in the autumn term and will contact your office to arrange this in due course.

 

In the meantime, please do not hesitate to contact me if you wish to discuss further any matters relating to your role as Chair.

 

 

Yours sincerely,

 

 

 

Rosemary Butler AC, Llywydd

Rosemary Butler AM, Presiding Officer


 

 

 

 

 

 

David Melding AC

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

 

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

 

Dyddiad: Gorffennaf 2011

 

Annwyl David,

 

Portffolios a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad

 

Hoffwn ddwyn i’ch sylw yr adroddiad a osodwyd gan y Pwyllgor Busnes ar 14 Gorffennaf 2011 sy’n amlinellu portffolios a chyfrifoldebau’r pwyllgorau, rôl y pwyllgorau a’ch rôl chi fel Cadeirydd pwyllgor (CR-LD8605: Portffolios a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad, y Pwyllgor Busnes, 12 Gorffennaf 2011).

 

Mae system newydd y pwyllgorau a gytunwyd gan y Cynulliad ar 22 Mehefin yn cyflwyno agwedd newydd tuag at graffu gan y Cynulliad. Mae’n symleiddio’r system, gan hefyd gyflwyno her i sicrhau bod pwyllgorau’n blaenoriaethu ac yn rheoli eu gweithgareddau er mwyn darparu rhaglen gytbwys, gynhwysfawr ac effeithiol o graffu ar ddeddfwriaeth a pholisi, a gwaith craffu ariannol, yn yr amser sy’n cael ei neilltuo ar eu cyfer o fewn amserlen y Cynulliad.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu hynt y system newydd o fewn 12 mis. Byddwn yn rhoi sylw arbennig i gylch gwaith pob pwyllgor fel rhan o’r adolygiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod pob maes pwnc yn cael ei drafod i ryw raddau. Byddwn hefyd yn ystyried i ba raddau mae’r system newydd yn cynnwys gwaith craffu ar faterion Ewropeaidd.

 

Gan ein bod yn rhoi dull newydd o graffu ar y pwyllgorau ar waith, hoffwn gyfarfod â chadeiryddion y pwyllgorau bob tymor i drafod sut mae’r system yn esblygu ac unrhyw faterion sy’n codi. Rwyf yn bwriadu cynnal y cyntaf o’r cyfarfodydd hyn yn nhymor yr hydref, a byddaf yn cysylltu â’ch swyddfa i drefnu cyfarfod yn y man.

 

Yn y cyfamser, cysylltwch â mi os hoffech drafod unrhyw faterion mewn perthynas â’ch rôl fel Cadeirydd.

 

 

Yn gywir

 

 

 

Rosemary Butler AC, Llywydd

Rosemary Butler AM, Presiding Officer